Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Canllaw i'r Sector Wirfoddol --> Y Sector Wirfoddol yn eich Maes

Rhestr o adnoddau sy'n ymwneud â'r sector wirfoddol mewn gwahanol faesydd yng Nghymru.

Cynnwys- Y Sector Wirfoddol yn eich Maes

Celfyddydau | Dwyieithrwydd | Busnes | Gwaith Cristnogol | Yr Amgylchfyd | Grŵpiau Anabledd | Addysg a Dysgu | Iechyd | Y Digartref | Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCH) | Iechyd meddwl | Grŵpiau lleiafrifol | Gwirfoddoli Dramor | Iechyd meddwl | Lleihau tor-cyfraith a chynorthwyo troseddwyr | Chwaraeon | Camddefnyddio sylweddau | Trafnidiaeth | Menywod |

Celfyddydau

Mae'r wefan Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn cyflwyno gwybodaeth am gyllido, cyhoeddiadau'r mudiad, trafodaethau ynghylch polisiau, hyfforddiant a digwyddiadau. Y disgrifiad gorau o Gelfyddydau Gwirfoddol Cymru yw 'asiantaeth datblygu Cymru ar gyfer y celfyddydau gwirfoddol', ac mae'n annog a chefnogi cyfranogiad mewn mudiadau celfyddydol gwirfoddol a chymunedol.

Mae Cynulleidfaoedd Cymru yn asiantaeth sydd wedi ymrwymo i gynnyddu cyfranogiad a mynychiad y celfyddydau a'r sector diwylliannol yng Nghymru. Maent yn cynnig gwasanaethau marchnata i sefydliadau eang, o opera i orielau, i gwmniau theatr lleol ac amgueddfeydd. Y prif fwriad yw gwella dealltwriaeth o'n cynulleidfaoedd, er mwyn gweithio i wella marchnata gyda'n partneriaid. Crewyd Cynulleidfaoedd Cymru ym mis Ebrill 2005, pan ddaeth 'Cardiff Arts Marketing' (CAM), 'Valleys Arts Marketing' (VAM) a 'Marketing the Arts Swansea Carmarthenshire' (MASC) at ei gilydd i ffurfio un cwmni.

Am adnoddau eraill yn ymwneud â chelf yng Nghymru (nifer yn gysylltiedig â'r sector wirfoddol), porwch adran Gelfyddau Cymru ar y We.

Dwyieithrwydd

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn darparu cyngor i gyrff gwirfoddol ar weithredu polisi Cymraeg fel y gwna ‘O'n Gwirfodd', dogfen y gellir ei dadlwytho o wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Busnes

Menter 'Busnes yn y Gymuned' yw ProHelp. Mae'n rhwydwaith cenedlaethol o 1,000 o gwmnïau proffesiynol sydd yn rhoi eu hamser a'u harbenigedd am ddim i grŵpiau cymunedol a chyrff gwirfoddol. Mae 108 o gwmniau ProHelp wedi darparu cyngor proffesiynnol i grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Ar hyn o bryd mae grŵpiau ProHelp ar waith yng Nghaerdydd, Ceredigion, Canolbarth Cymru, Gogledd Cymru ac Abertawe. Mae'r wefan yn darparu manylion astudiaethau achos yng Nghymru, eu rhaglenni a manylion cyswllt rhanbarthol. Mae'r sectorau sy'n ymwneud â'r fenter yn cynnwys cyfrifeg, pensaernïaeth a gwasanaethau adeiladu, cynllunio a graffeg, y gyfraith, marchnata, cyfryngau, cynllunio, cysylltiadau cyhoeddus a gwasanaethau eiddo.

Gwaith Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol yn elusen byd-eang sy'n gweithio i ddileu tlodi a'r gyfundref sy'n cadw pobl yn dlawd. Mae adran Cymru gwefan Cymorth Cristnogol yn darparu manylion cyswllt, cyfleon gwirfoddoli a chalendr digwyddiadau. Mae gan Gymorth Cristnogol swyddfeydd yng Nghaerdydd, Bangor a Chaerfyrddin.

Yr Amgylchfyd

BTCV yw elusen amgylcheddol ymarferol mwyaf Prydain, yn helpu dros 130,000 o wirfoddolwyr bob blwyddyn i wella eu hamgylchedd lleol. Drwy eu staff a gwirfoddolwyr, gall BTCV Cymru roi'r cymorth, cyngor a chefnogaeth ymarferol y mae unigolion, grŵpiau a sefydliadau eu hangen i weithredu prosiectau amgylcheddol - popeth o dimau o wirfoddolwyr i fenthyg offer i grŵpiau cymunedol ar gyfer eu gweithgareddau eu hunain. Mae'r wefan yn rhoi manylion am weithgareddau BCTV Cymru, sut y gallant helpu cymunedau lleol a sut y gallwch chi gyfrannu.

Adnoddau eraill o ddiddordeb:

  • Y mae Greencare yn gweithredu o fewn bwrdeistrefi Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Y nod yw gwneud gwelliannau ymarferol i'r amgylchedd yn yr ardal, creu rhwydwaith Greencare a fydd yn ymrwymedig i ddatblygiad cynaladwy, ac i weithio mewn partneriaeth â'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
  • 'Elusen adfywio amgylcheddol flaenllaw yw Groundwork sy'n gwneud datblygu cynaladwy yn wirionedd yng nghymdogaethau tlotaf y Deyrnas Unedig. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â phobl lleol, awdurdodau lleol a busnesau i wireddu adfywio cymdeithasol ac economaidd drwy wella'r amgylchedd lleol.'
  • Mae 'Cadwch Gymru'n Daclus' yn gorff gwirfoddol cenedlaethol annibynnol a chanddo statws elusennol sydd yn gweithio i wella'r amgylchedd lleol. Mae gan y wefan adran ar Weithredu Cymdeithasol.
  • Rhwydwaith o fudiadau proffesiynol a gwirfoddol yw GreenWeb Sir Fynwy sy'n gefnogol i gadwraeth amgylcheddol yn Sir Fynwy.
  • Mae Ymddiriedolaeth yr Amgylchedd Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth ac yn ariannu cyfleoedd ar gyfer sefydliadau cymunedol preifat a chyhoeddus i ddatrys problemau cynaladwy er mwyn delio gyda gwastraff Cymru.

Am adnoddau eraill yn ymwneud â'r Amgylchedd yng Nghymru (nifer yn berthnasol i'r sector wirfoddol), porwch adrannau Amgylchedd neu Datblygiad Cynaladwy.

Grŵpiau Anabledd

Anabledd Cymru yw'r 'gymdeithas genedlaethol o grŵpiau anabledd yng Nghymru sy'n gweithio i hyrwyddo hawliau, cynhwysiad, cydraddoldeb, a chefnogaeth i holl bobl anabl Cymru'. Y mae Anabledd Cymru yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth, yn datblygu cyfleoedd i sicrhau bod yr anabl yn gallu cyfrannu fel dinasyddion cyfartal, a chyfranogi mewn datblygu polisïau. Ar y wefan, darperir gwybodaeth am Anabledd Cymru a'i wasanaethau, a cheir yma restr o gysylltiadau yn ymwneud ag anabledd.

Am adnoddau eraill yn ymwneud â materion Anabledd yng Nghymru, porwch adran Anabledd Cymru ar y We.

Addysg a Dysgu

Partneriaeth amlasiantaeth yw Niace Dysgu u Cymru yn cynnwys oddeutu 110 o fudiadau, yn eu plith awdurdodau lleol, colegau, prifysgolion, mudiadau cymunedol a gwirfoddol sy'n 'cefnogi a hyrwyddo datblygiad dysgu gydol oes yng Nghymru'. Y mae Partneriaeth Prifysgol Gymunedol y Cymoedd yn bartneriaeth rhwng Addysg Uwch a'r Sector Wirfoddol yng Ngorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru. Yn benodol y mae'r bartneriaeth yn targedu cymunedau diarffordd ac mae'n darparu cyfleoedd dysgu arloesol yn y gymuned, o astudiaethau anffurfiol hyd at lefel gradd.

Mae nifer o gyfleon yng Nghymru i'r sawl sydd am barhau â'u haddysg a dysgu sgiliau newydd. Am adnoddau eraill yn ymwneud ag Addysg Gydol Oes yng Nghymru, porwch adrannau Addysg Gydol Oes ac Addysg Sylfaenol i Oedolion.

Henoed

RSVP yw'r rhaglen wirfoddoli ar gyfer pobl hŷn a phobl sydd wedi ymddeol sy'n cael ei rhedeg gan CSV ers 1998. 'Mae RSVP yn credu fod gan bobl hŷn oes o sgiliau a phrofiadau sydd o werth amhrisiadwy i'w cymunedau pan y'u defnyddir mewn gweithgareddau gwirfoddoli. A thrwy gymeryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, mae'r gwirfoddolwyr eu hunain yn elwa'n fawr yn nhermau gwell iechyd a hunan-hyder.'

Mae 'Help the Aged' 'yn ariannu ac yn cynnig ystod o wasanaethau o ansawdd ar gyfer pobl hŷn' yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys cyngor a gwybodaeth , siopa cartref a gwasanaethau sydd ar gael a manylion cyswllt am eich ardal leol. Mae gan adran Cymru newyddion wedi ei ddiweddaru o'r ardal a materion polisiau a fyddai o ddiddordeb i'r henoed yng Nghymru.

Sefydlwyd Cymorth i'r Henoed er mwyn gwella bywydau pobl hŷn drwy ysgogi trafodaethau, partneriaethau ac ymchwil, drwy ddylanwadu ar bolisïau, gwella safonau gwasanaethau a chodi ymwybyddiaeth ynghylch materion sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Y mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth gyswllt Age Concern ym mhob rhan o Gymru, ac ar gael y mae adran newyddion a datganiadau i'r wasg. Yn ogystal, ceir adran Cwestiynau Cyffredin yn ymwneud â gwybodaeth berthnasol i'r henoed, a mynediad ar-lein i nifer o daflenni gwybodaeth.

Mae Cynghrair Henoed Cymru yn sefydliad gwirfoddol venedlaethol sy'n gweithio dros, a chyda pobl hŷn yng Nghymru. Mae'r wefan yn cynnig manylion am ddigwyddiadau, aelodau a phrosiectau, ynghyd ag adran newyddion diweddaraf.

Am adnoddau eraill yn ymwneud â materion yr Henoed yng Nghymru, porwch adran Henoed Cymru ar y We.

Iechyd

Mae Codi Pontydd Cadarn yn bartneriaeth rhwng y sector wirfoddol a GIG Cymru ar lefelau lleol a chenedlaethol ac mae'r sector wirfoddol yn cael ei gydnabod fel partner allweddol i ddarpariaeth polisiau iechyd a lles.

Am restr o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, nifer yn ymwneud â iechyd, porwch gyfeiriadur Mudiadau Gwirfoddol Codi Pontydd Cadarn.

Digartref

Shelter Cymru yw'r mudiad sy'n gyfrifol am amddiffyn hawliau'r digartref yng Nghymru a Homeless Link yw'r gorff aelodaeth sy'n cefnogi a chynrychioli mwy na 700 o asiantaethau sy'n gweithio gyda'r di-gartref yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gwrdd ag anghenion y di-gartref.

Mae sawl menter wedi'u sefydlu yng Nghymru i gynnig cymorth a chynhaliaeth i'r digartref. Maent yn cynnwys:

Am adnoddau eraill yn cynnig cymorth a chynhaliaeth i'r Digartref yng Nghymru, porwch adran Digartref Cymru ar y We.

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCH)

Mae sawl menter yn bodoli'n barod yng Nghymru sy'n cyflwyno TGC i ardaloedd llai breintiedig. Mae'r adnoddau yma hefyd o ddefnydd i grŵpiau cymunedol a'r sector wirfoddol yng Nghymru. Maent yn cynnwys:

  • Mae SWITCH yn bartneriaeth rhwng 15 grŵp cymunedol lleiafrifol yn ne Cymru, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig a'r anabl, ac Ymddiriedolaeth Scarman. Nod SWITCH yw lleihau'r y rhwystrau i ddysgu yn y gymuned ar gyfer y grŵpiau hyn a gwella eu mynediad i, a'u dealltwriaeth o dechnoleg gwybodaeth.

Am adnoddau eraill yn cynnig cymorth a chyngor ar TGC, porwch adran Cyfrifiadureg - Addysg Cymru ar y We.

Iechyd Meddwl

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont Ar Ogwr yn darparu gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl a manylion cyswllt cyrff amrywiol yng Nghymru.

Mae Iechyd Meddwl Cymru yn wefan iechyd meddwl cynhwysfawr sy'n gwasanaethu Cymru. Mae'n darparu manylion parthed lle i fynd am gymorth, adran newyddion diweddaraf am faterion iechyd meddwl, cyngor ar gyfer teuluoedd a gofalwyr a gwybodaeth gyfreithiol. Rheolir yr adnodd gan Hafal.

Am wasanaethau eraill yn ymwneud â iechyd meddwl yng Nghymru, porwch adran iechyd meddwl Cymru ar y We.

Grŵpiau lleiafrifol

Mae Rhwydwaith Sector Wirfoddol i Bobl Croenddu Cymru yn anelu i fod yn bwynt ffocws and yn ysgogiant i'r sector wirfoddol ddu yng Nghymru. Eu nod yw codi proffil y sector wirfoddol a chymunedau du, ac i ddarparu gwasanaeth sy'n adlewyrchu barn, diddordebau ac anghenion cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig ac yn adlewyrchu blaenoriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o frwydro yn erbyn alltudiaeth gymdeithasol.

Mae BEST (Black and ethnic minority support team) wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad o dan y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf. Y nod yw datblygu sgiliau ac adnoddau a lleihau rhwystrau economaidd a chymdeithasol ymysg cymunedau croenddu a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Mae BEST yn bartneriaeth rhwng:

Adnoddau eraill o ddiddordeb:

  • ABCD, sefydliad gwirfoddol wedi ei leoli yng Nghaerdydd. aent yn gweithio gyda phlant ac ieuenctid (0-25 oed), y cymunedau croenddu a'r lleifrifoedd ethnig.
  • AWETU, sy'n darparu cefnogaeth i grwpiau lleiafrifol gyda iechyd meddwl.

Am restr o wefannau yn cynnig cymorth a chyngor i grŵpiau lleiafrifol yng Nghymru porwch adran Grŵpiau Lleiafrifol Cymru ar y We.

Lleihau Tor-cyfraith a Chynorthwyo Troseddwyr

Mae SOVA yn gorff gwirfoddol cenedlaethol sydd wedi ei sefydlu er mwyn cynyddu rôl y gymuned mewn lleihau troseddu. Mae SOVA yn gweithio gyda phobl ifanc mewn gofal, y rhai sy'n gadael gofal, y rhai sy'n anfodlon yn yr ysgol, gyda phroblemau addysgol, mewn trafferth âr gyfraith ac yn y ddalfa. Mae gan y wefan restr o brosiectau SOVA yng Nghymru. Mae swyddfa Cymru yn Y Drenewydd ym Mhowys. Mae Sova ynghlwm â nifer o brosiectau yng Nghymru hefyd.

Mae Nacro Cymru yn gangen o gyfundrefn wirfoddol annibynnol Nacro sy'n gweithio i rwystro tor-cyfraith. Eu nod yw i wneud cymdeithas yn ddiogel trwy gynnig atebion ymarferol i leihau tor-cyfraith. Mae eu prif swyddfa Gymreig yn Abertawe, gyda swyddfeydd eraill ym Mangor, Y Barri a Phort Talbot.

Mae 'Crime Concern' yn sefydliad cenedlaethol sy'n darparu cymorth a chyngor i ystod eang o asiantaethau proffesiynol a gwirfoddol sy'n gweithio i leihau troseddu mewn cymunedau lleol. mae'r wefan yn darparu manylion am eu gwasanaethau, cyhoeddiadau a phrosiectau. Mae gan 'Crime Concern' swyddfa ranbarthol yng Nghaerdydd.

Mae Her Powys yn sefydliad gwirfoddol sy'n gweithio gyda troseddwyr, diffunyddion a'r rhai sydd mewn perygl o droseddu i leihau tor-cyfraith. Mae'r safle yn cynnwys gwybodaeth am y sefydliad, ei bolisïau, sut i wirfoddoli a manylion cysylltu.

Chwaraeon

Cydnabyddir fod gwirfoddoliaeth yn chwarae rhan bwysig mewn chwaraeon yng Nghymru. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru am gynyddu'r nifer o wirfoddolwyr yng Nghymru sydd yn gallu cyfrannu at ddatblygu chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau. Mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer y rhai sydd yn dymuno cymryd rhan. Dyma gyflwyniad i'r cynllun ac mae'n darparu manylion pellach ar sut i gymryd rhan yn 'Gwirfoddolwyr Mewn Chwaraeon'.

Cynhelir nifer o weithgareddau hamdden a chwaraeon yng Nghymru. Rhestrir nifer o glybiau a chyrff chwaraeon ar Cymru ar y We.

Trafnidiaeth

Defnyddir trafnidiaeth gymunedol gan grŵpiau gwirfoddol a chymunedol, ysgolion, colegau ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu trafnidiaeth o ddrws i ddrws ar gyfer pobl sy'n methu â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus arall. Y CTA (Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol) yw corff cynrychioladol cenedlaethol y darparwyr trafnidiaeth hyn sy'n perthyn i'r sector wirfoddol. Mae'r tudalennau ar Gymru yn darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gymunedol yng Nghymru.

Camddefnyddio Sylweddau

Mae nifer o asiantaethau o fewn Cymru yn cynnig cymorth i bobl sydd a phroblemau gyda chyffuriau ac alcohol. Am restr o wasanaethau yn ymwneud â chamddefnydd o alcohol a chyffuriau yng Nghymru, porwch adran Camddefnyddio Sylweddau Cymru ar y We.

Menywod

Mae YWCA Cymru a Lloegr yn rhoi cymorth i fenywod ifanc i newid eu bywydau mewn ffordd gadarnhaol, gan eu hannog i weithio gyda'i gilydd er mwyn goresgyn anfanteision. Sefydlwyd y mudiad ym 1855, ac erbyn heddiw cynorthwya fenywod ifanc rhwng oedrannau 11 a 30 sy'n wynebu anfanteision megis tlodi, diweithdra, trais neu sy'n cael eu camdrin. Cynigia'r wefan y cyfle i gefnogi'r mudiad drwy roi arian, yn ogystal â thudalennau megis 'Newyddion a Chyhoeddiadau' a 'Gweithio gyda ni'.

Mudiad Cenedlaethol i ferched yng Nghymru sy'n cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yw Merched y Wawr.

Am restr o wefannau Cymreig yn ymwneud â gwasanaethau a mudiadau yn cefnogi safle'r fenyw ym mywyd Cymru, porwch adran menywod Cymru ar y We.