Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Canllaw i'r Sector Wirfoddol

Mae'r sector wirfoddol yn cael dylanwad gref ar gymdeithas ac yn cyfrannu i'n lles cymdeithasol ac economaidd. Cynigir nifer o wasanaethau sy'n hanfodol i bobl yng Nghymru. I nifer o bobl nad ydynt yn teimlo'n rhan o'r gymuned mae'n sector hynod o bwysig. Mae mudiadau gwirfoddol yn amrywio o gymdeithasau bach cymunedol i fentrau adnabyddus ac mae Cymru ar y We yn rhestru pob grŵp o'r fath sydd ar y Rhyngrwyd. Crynodeb yw'r canllaw yma o'r hyn sy'n bodoli'n barod yn y sector wirfoddol sy'n darparu gwasanaethau a chyfleon ar raddfa eang yng Nghymru.

Y prif gorff gwirfoddol yng Nghymru yw Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru- mae eu gwefan yn ateb cwestiynau am bob agwedd o waith gwirfoddol. Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn cynnig gwasanaeth cyffelyb yn ogystal â'r opsiwn o 'ofyn cwestiwn'. Maent hefyd yn darparu bas data o sefydliadau gwirfoddol led-led Cymru.

Adnodd gwerthfawr arall yw 'VolResource' sy'n darparu gwybodaeth gyffredinol am y sector a chyngor ar sut i reoli mudiad cymunedol neu wirfoddol.

Mae'r dolenni canlynol yn darparu gwybodaeth ychwanegol a mynediad i nifer o adnoddau safonol am y sector wirfoddol yng Nghymru.

Am wybodaeth ar y sector wirfoddol yng ngweddill y Deyrnas Unedig gweler: