Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Canllaw Newyddion Ar-lein --> Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae dalgylch y gwasanaethau newyddion hyn yn cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint a Wrecsam.

Newyddion BBC - Gogledd Ddwyrain Cymru

IC North Wales gan y Daily Post.

Mae North Wales Newspapers Ltd yn darparu mynediad ar-lein i'r teitlau canlynol.

  • Evening Leader- yn cynnwys rhifynnau ar gyfer Wrecsam, Sir Fflint, ac Arfordir Gogledd Cymru
  • Mae'r Flintshire Leader Standard yn ganlyniad uno rhwng y Flintshire Standard a'r Flintshire Leader. Fe'i lawnsiwyd ym 1999.
  • Denbighshire Free Press- papur cymunedol ar gyfer Sir Ddinbych.
  • The Rhyl, Prestatyn and Abergele Journal- mae cylchrediad y Journal yn ymestyn o Fostyn i Abergele a Phensarn ar arfordir gogledd Cymru ac i mewn i'r tir i ardaloedd Bodelwyddan, Llanelwy a Rhuddlan.
  • North Wales Pioneer - cyhoeddir y Pioneer ym Mae Colwyn a cafodd ei lawnsio ym 1971. Mae ei gylchrediad yn cynnwys ardal Cyngor Bwdeistref Conwy a threfi fel Llandudno.

Mae Trinity Digital Media Ltd hefyd yn cyhoeddi nifer o bapurau newydd wythnosol yn ardal gogledd ddwyrain Cymru. Mae manylion cyswllt ar gyfer y papurau hyn ar gael o wefan IC North Wales. Noder nad oes mynediad ar-lein i straeon o'r papurau newydd hyn. Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys:

Mae cyfres bapurau newydd rhad ac am ddim y Visitor yn cylchredeg yn ardaloedd dwyrain Conwy a Sir Ddinbych.

  • Rhyl and Prestatyn Visitor- Papur newydd rhad ac am ddim ar gyfer Y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan a Dyserth.
  • Abergele and St Asaph Visitor- papur wythnosol gyda'i gylchrediad yn ymestyn o Landudno i Fae Cinmel, ac yn cynnwys pentrefi yn ardal Abergele a Llanelwy.
  • The Vale Advertiser - mae cylchrediad yr advertizer yn cynnwys trefi a phentrefi yn Nyffryn Clwyd gan gynnwys Dinbych, Rhuthun a Chorwen.

Papurau Bro- Gogledd Ddwyrain Cymru
Dyma restr o bapurau bro gogledd ddwyrain Cymru a darperir gan BBC Cymru'r Byd. Mae yna dolenni i'r Nene (papur bro Rhosllanechgrugog), Papur Fama (papur bro Y Wyddgrug) , Y Bedol (papur bro Rhuthun a Chorwen), Y Bigwn (papur bro Dinbych), Y Clawdd (papur bro Wrecsam), Y Gadlas (papur bro ar gyfer Bro Aled ger Conwy), Y Glannau (Papur bro trefi a phentrefi arfordirol y Gogledd Ddwyrain).